
velški
Eglwys ym mhentref Owrtyn, Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yw Eglwys y Santes Fair. Fe'i lleolir ar y Stryd Fawr yng nghanol y pentref. Fe'i amgylchir gan goed yw, sydd yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Credir yr adeiladwyd yr eglwys cyntaf ar y safle yn y 12g. Mae croes Normanaidd yn bodoli, yn rhan o bilar ar ochr orllewinol yr eglwys bresennol. Adeiladwyd tŵr yr eglwys bresennol yn hwyr yn y 14g. Adeiladwyd corff fwy i’r eglwys yn ystod y 15g, a changell fwy yn y 18g. Roedd newidiadau ehangach yn y 19eg ganrif.