velština

Storiel yw ymgnawdoliad ac enw presennol (2017) Amgueddfa ac Oriel Gwynedd. Menter yw ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor. Ers Ionawr 2016 lleolir yr amgueddfa ym Mhlas yr Esgob ger Cadeirlan Bangor (Gwynedd). Yn y casgliadau parhaol mae ystod o gelfi tŷ, dillad a gwrthrychau hanes cymdeithasol o'r 18 i'r 21 ganrif. Storiel, hefyd, yw unig gadwrfa deunydd archeolegol Gwynedd a Môn, ac mae'r arddangosfa yn adlewyrchu hyn. Yn ogystal â chasgliad celf barhaol, mae Storiel yn llwyfanni arddangosfeydd achlysurol.

Číst více na WikipediiZdroj: Wikipedie · CC BY-SA 4.0

Hotely v okolí

Zajímavosti v okolí